O er mwyn y gwaed a gollwyd
O er mwyn y gwaed dywalltwyd

("Golch fi.")
O! er mwyn y gwaed dywalltwyd,
  'Dŵr a'r gwaed o'i ystlys Ef,
Tyn bob cwmwl sy'n tywyll
  Rhwng fy enaid 'nawr a'r Nef:
Gâd im' brofi ffrwyth ei glwyfau,
  Gâd im' deimlo rhîn ei waed;
Gâd im' weled gwedd dy wyneb,
  O fy Mhrynwr, a fy Nhad!

Fel bo'm dyddiau oll yn ganu,
  Nid yn alar fel mae'n awr,
Cariad fyddo'n llenwi f'enaid,
  Ac yn boddi swn y llawr:
Ar d'adenydd gâd im' hedeg
  Trwy bob rhwystrau maith yn mlaen,
Credu, caru, gorfoleddu,
  Nes im' dd'od i Salem lân.
dywalltwyd :: a gollwyd

William Williams 1717-91

Tôn [8787D]: Edinburgh (Frederick A G Ouseley 1825-89)

gwelir:
  Draw ar gopa bryn Golgotha
  Dychwel Arglwydd i'th orphwysfa
  Mae fy nghalon am ehedeg
  Nid yw 'ngweddi nid yw 'nagrau
  P'odd y gallaf ddweyd sydd ynwyt?

("Wash me.")
O, for the sake of the blood poured out,
  The water and the blood from his side,
Take away every cloud that is dark
  Between my soul now and heaven:
Let me experience the fruit of his wounds,
  Let me feel the merit of his blood;
Let me see the countenance of his face,
  O my Redeemer, and my Father!

That all my days be singing,
  Not lamenting as they are now,
May love me filling my soul,
  And drowning the sound of earth below:
On thy wings let me fly
  Through all vast obstacles onward,
Believing, loving, rejoicing,
  Until I come to holy Salem.
poured out :: that was shed

tr. 2020 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~